Tyred Arglwydd i'r anialwch

1,(2),3,4,5;  1,3,8,9;  1,(6),7.
(1) Tyred Arglwydd i'r anialwch,
  Yma buost ti o'r blaen,
Arwain b'rerin llesg difedr,
  A dy golofn niwl a thân; 
Dal fy ysbryd sy'n llewygu,
  Gan ryw ofnau o bob màn,
Yn dy allu 'rwyf yn gadarn,
  Hebot ti nid wyf ond gwàn.

(2) Arglwydd rhaid i mi gael bywyd
  Mae fy meiau i mor fawr,
Fy euogrwydd sydd yn gyd-bwys,
  A mynyddau mwya'r llawr;
Rhâd faddeuant gwawria bellach,
  Rho garcharor caeth yn rhŷdd,
Fu'n ymdreiglo mewn tywllwch,
  Yn awr i weled goleu'r dydd.

(3) Cyfod haul sy'n
        rhwygo'r t'wyllwch,
  Cyfod nerth sy'n briwio chwant,
Gyr holl ofnau anghrediniaeth,
  Fel rhyw niwlen fygddu' bant;
Rho i'm wel'd yr ardal hyfryd,
  Man lle mae fy ngobaith gwell,
A chael pleser yn yr anial,
  I edrych ar y gwledydd pell.

(4) Yma rhed yr afon allan,
  Ffrydiau ar ol ffrydiau o hyd,
Gloyw ddw'r di-drai di-gymmysg,
  Sydd yn golchi beiau'r hyd;
Pa'm dychryna'r euog aflan,
  Heibio'r aeth cymmylau'r nen,
Dyma le i gladdu euogrwydd,
  Yn y beddrod tan y pren.

(5) Ofni'r wyf ac etto canu,
  Canu wrth feddwl am y dydd,
Tan ymdrechu âg angau creulon,
  Yr â pob cadwyn gref yn rhydd:
Diwedd caru gwag bleserau,
  Dechreu hyfryd haf a hedd;
Byth yn dawel o bob gofid,
  Câf orphwysfa yn y bedd.

(6) Wrth dy orsedd bydd fy nhrigfan,
  A dy orsedd unig yw,
Od oes dim tu yma i angeu,
  Wna fy enaid marw'n fyw;
Pechod, gofid, ac euogrwydd,
  O bob natur, o bob gradd,
Syched am gael teimlo'th heddwch,
  Sydd yr awr hon bron fy lladd.

(7) O! drugaredd pen Calfaria,
  Sydd yn llawer mwy na'r byd, 
Yma'n unig mae fy ngobaith
  Sefyll mewn anfeidrol lid;
'Rwy'n ymwadu â'r oll a feddaf,
  Ac yn addef feddaf ddim:
Iesu ei hunan yw fy haeddiant,
  Iesu ei hunan yw fy ngrym.

(8) Dysg fi gerdded trwy'r afonydd,
  Ac na'm hofner gan y llif,
Na bwy'n ildio gyda'r tònau,
  Temtasiynau fwy na rhif;
Cadw 'ngolwg ar y bryniau,
  Uchel hardd tu draw i'r dw'r,
Cadw 'ngafael yn yr afon,
  Ar yr Iesu'r blaenaf ŵr.

(9) Cân fy enaid
        mwy bydd lawen, 
  Minau ddof
      er tonau maith,
Cynddeirioca eu rhyw a'u pwysau,
  Cyn bo hir i ben fy nhaith;
Mi gâf orphen dyrys anial,
  Mi gaf lanio i mewn i'w plith,
A chaf fod heb
    ddim i'm blino,
  Yn eu cwm'ni dedwydd byth.
Yma buost ti :: Fel y buost ti
Cyfod nerth sy'n briwio chwant ::        
        Chwal y beiau mwya' cudd
rhyw niwlen fygddu' bant :: y nos o flaen y dydd

William Williams 1717-91

Tonau [8787D]:
Blaenwern (W Penfro Rowlands 1860-1937)
Chrysostom (alaw henafol)
Eifionydd (J A Lloyd 1815-74)
Gwynfa (J H Roberts 1848-1924)
Jersey (alaw Gymreig)
Meribah (alaw Gymreig)
Vienna (Franz Joseph Haydn 1732-1809)

gwelir:
  Mae rhyw foroedd o drugaredd
  Nid wy'n ofni tir y bywyd
  O fy enaid gwan nag ofna
  Tyred Iesu i'r anialwch

(1) Come, Lord, into the desert,
  Here thou wast before,
Lead a feeble, weak pilgrim
  With thy pillar of fog and fire;
Keep my spirit which is being wearied,
  By some fears from every place,
In thy power I am secure,
  Without thee I am only weak.

(2) Lord, I must get life
  My faults are so great,
My guilt is as heavy
  As the largest mountains of earth;
Free forgiveness will dawn henceforth,
  Set the captive prisoner free,
Who was turning in darkness,
  Now to see the light of day.

(3) The sun will rise which
        rends the darkness,
  Strength will rise which bruises lust,
Drives all fears of unbelief,
  Like some pitch-black fog away;
Grant me to see the delightful region,
  A place where is my better hope,
And to get pleasure in the desert,
  To look upon the distant lands.

(4) Here may the river run out,
  Streams after streams always,
Clear water, unebbing, unmixed,
  Which washes faults all along;
Why is the guilty, unclean one terrified?
  Past have gone the clouds of the sky,
Here is a place to bury guilt,
  In the tomb beneath the tree.

(5) Fear I do and yet sing,
  Sing while thinking about the day,
Until struggling with cruel death,
  Every strong chain will become free:
An end to the love of empty pleasures,
  The start of a delightful summer of peace;
Forever still from every worry,
  I may get to rest in the grave.

(6) By thy throne shall be my dwelling,
  And thy throne is alone,
If there is nothing this side of death,
  My dead soul shall live;
Sin, worry, and guilt,
  Of every nature, of every degree,
Thirst for getting to feel thy peace,
  Is this hour almost killing me.

(7) Oh the mercy of the summit of Calvary,
  Is much greater than the world,
Here alone is my hope
  Standing within immeasurable wrath;
I am renouncing all I posses,
  And promising to possess nothing:
Jesus himself is my claim,
  Jesus himself is my force.

(8) Teach me to walk through the rivers,
  And not to be frightened by the flood,
Nor shall I yield with the breakers,
  To temptations more than number;
To keep my sight on the hills,
  High, beautiful, beyond the water,
To keep my grasp in the river,
  On Jesus the foremost man.

(9) The song of my soul
        henceforth will be joy,
  As for me, I shall come
      despite vast waves,
Most furious their kind and their weight,
  Before long to the end of my journey;
I may get a finish to a troublesome desert,
  I may get to land within their midst,
And I will get to be without
    anything to weary me,
  In their happy company forever.
Here thou wast :: As thou wast
Strength will rise which bruises lust ::        
        Smash the most secret sins
some pitch-black fog away :: the night before the day

tr. 2013 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~